Ymateb i ymgynghoriad:

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Medi 2022                                                                      

 

                                                                                                                 

                                                                                                               

 

                                                                                                     

 

 

                                                                                                                    

 

 


 

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

1.    Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer perfformwyr ifanc ledled Cymru sydd â dawn a photensial. Bob blwyddyn rydyn ni'n gweithio gyda channoedd o actorion, dawnswyr a cherddorion ifanc 16 – 22 oed, drwy gyfleoedd hyfforddi a pherfformio eithriadol yn y celfyddydau.

 

2.    Ers ei ffurfio yn 2017, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi ehangu ei gwaith y tu hwnt i’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol, ac mae bellach yn cynhyrchu amrywiaeth o brosiectau datblygu gydol y flwyddyn sydd wedi’u cynllunio i wella mynediad at hyfforddiant lefel uchel. Mae hyn yn cynnwys Cerdd y Dyfodol, cynllun mentora cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer cerddorion indi, roc a phop mewn ysgolion; a Hard Côr, grŵp lleisiol newydd sy'n cynnwys rapwyr, cantorion a bîtbocswyr, a'r rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc nad ydynt yn draddodiadol yn ymwneud â gweithgareddau celfyddydol prif ffrwd.

 

3.    Ym mlwyddyn ariannol 2021-22, cyflogodd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru dros 200 o weithwyr creadigol llawrydd er mwyn cyflawni ei rhaglen waith uchelgeisiol. Cyflawnodd y gweithwyr creadigol llawrydd hyn nifer o rolau gan gynnwys tiwtoriaid offerynnol, cyfarwyddwyr, coreograffwyr, cyfansoddwyr, ysgrifenwyr, arweinwyr, hwyluswyr gweithdai a staff lles.

 

4.    Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ieuenctid, gan gynnwys cynllun Cynhyrchwyr dan Hyfforddiant blynyddol, lle telir y Cyflog Byw Gwirioneddol, a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc o deuluoedd incwm is neu o gymunedau Mwyafrif Byd-eang i ymuno â gweithlu'r diwydiannau creadigol.

 

 

Beth yw iechyd presennol gweithlu’r sector, gan gynnwys effeithiau’r pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

 

5.    Dros ddwy flynedd ddiwethaf y pandemig, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cael trafferth dod o hyd i staff llawrydd profiadol i gefnogi ein gwaith rhaglenni a’n gwaith prosiectau. Credwn fod sawl rheswm yn gyfrifol am hyn.

 

6.    Yn gyntaf, fel sefydliad celfyddydol a ariennir drwy arian cyhoeddus, rydyn ni'n brwydro i gystadlu â’r diwydiannau creadigol ehangach wrth gynnig ffioedd a chyflogau, yn enwedig o gymharu â’r diwydiannau ffilm a theledu.

 

7.    Mae heriau recriwtio wedi bod erioed yn y sector diwylliannol; fodd bynnag, mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r patrwm hwn – wrth i sectorau’r celfyddydau a’r celfyddydau ieuenctid weld gostyngiad sylweddol yn eu gweithgarwch, ac arafwch wrth ddychwelyd i ddarparu wyneb yn wyneb. Yn gyffredinol, llwyddodd ffilm a theledu i ddal ati yn ystod y pandemig, felly efallai bod y maes wedi ymddangos yn ddewis gyrfa mwy diogel i fwyafrif y gweithlu llawrydd.

 

8.    Mae’r sector diwylliannol yn faes hyfforddi i lawer o weithwyr llawrydd sy’n dechrau yn y diwydiant, yn enwedig mewn rolau technegol, ac mae sefydliadau celfyddydol yn buddsoddi mewn datblygu staff technegol dawnus. Fodd bynnag, mae “draen dawn” wrth i staff technegol adael y sector celfyddydau sy’n cael ei noddi er mwyn cael swyddi sy’n talu’n well yn y diwydiant ffilm a theledu.

 

9.    Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni'n gwybod bod y diwydiant wedi colli doniau a gwybodaeth oherwydd bod staff yn gadael ar gyfer diwydiannau eraill neu oherwydd diswyddiadau. Mae hyn yn wir am weithwyr llawrydd a staff cyflogedig. Fel mae Llawryddion Celfyddydol Cymru wedi’i adrodd, pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol sydd wedi wynebu’r risg fwyaf o adael y sector, gan danseilio ymhellach ymdrechion i sicrhau sector diwylliannol teg ac amrywiol.

 

10. Mae recriwtio ar gyfer prosiectau Cymraeg wedi bod yn arbennig o heriol. Rydyn ni'n gwybod bod galw mawr am y gweithlu creadigol dwyieithog ar hyn o bryd, yn enwedig oherwydd y sector ffilm a theledu sy’n tyfu, ochr yn ochr â chanfyddiad bod sefydlogrwydd gyrfa a chyflogau uwch yn y sector academaidd, sy’n golygu nad yw sefydliadau diwylliannol yn gallu cystadlu â’r sectorau hyn sy’n tyfu.

 

 

Pa mor sefydlog yw'r sector yn ariannol a pha mor addas yw'r tâl a'r amodau gweithio?

 

11. Fel sefydliad, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn talu’r cyfraddau a argymhellir gan yr undeb neu'r corff masnach priodol fan lleiaf. Yn ein hachos ni, gallai hyn gynnwys cyfeirio at y cyfraddau a argymhellir gan Undeb y Cerddorion, BECTU neu Equity.

 

12. Fe fydden ni bob amser yn argymell y dylai’r ffioedd hyn godi yn unol â chwyddiant er mwyn sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn cael eu talu’n deg. Fodd bynnag, byddai hyn yn rhoi sefydliadau fel ni mewn sefyllfaoedd anodd oni bai bod cynnydd tebyg yn cael ei wneud i gyllid refeniw craidd sefydliadau.

 

13. Mae sector y celfyddydau yn ei gyfanrwydd hefyd yn wynebu gostyngiad o ran incwm sy’n cael ei godi ac incwm sy’n cael ei ennill oherwydd pwysau costau byw, ar ben cyllid refeniw sy’n aros yn ei unfan. Gallai'r cyfuniad hwn o ffactorau arwain at ostyngiad yn y gwaith llawrydd cyffredinol sydd ar gael ar draws y sector. Byddai hefyd yn golygu y bydd cadw staff yn dod yn fwyfwy anodd, gyda gwahaniaethau cyflog yn gwaethygu a sefydliadau celfyddydol yn colli eu hapêl fel cyflogwyr.

 

14. Mae costau byw’n effeithio ar sector y celfyddydau nid yn unig drwy gyflogau a ffioedd llawrydd, maent hefyd yn effeithio ar gostau prosiectau gan gynnwys arlwyo, llety a theithio, gan leihau ymhellach y cyllidebau sydd ar gael y gellid eu gwario fel arall ar artistiaid. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn arbennig o agored i risg drwy gynnydd mewn costau arlwyo a llety oherwydd ei model preswyl, lle mae pobl ifanc yn dod at ei gilydd i hyfforddi a pherfformio dros gyfnod o 1-3 wythnos ar y tro.

 

15. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn falch o fod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig, gan dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf i'n holl staff contract. Cynyddodd hyn 10.1% yn ddiweddar, cost y byddwn yn ei hamsugno yn ein cyllidebau canolog. Cyfran fach o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw y mae’r cynnydd hwn yn effeithio arnynt, gan fod y rhan fwyaf ar gontractau llawrydd.

 

16. Yn ei hanfod, mae patrymau gwaith yn y sector creadigol fel arfer yn golygu diwrnodau gwaith hir, a gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae’r sector wedi wynebu’r her hon erioed; fodd bynnag, rydyn ni'n gweld patrwm o fudo sy’n debyg i’r sector lletygarwch – lle mae Covid wedi eu gorfodi i ailedrych ar eu gyrfaoedd, gyda llawer yn dewis symud at sectorau lle mae canfyddiad bod gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gwell tâl. Mae hyn yn arbennig o wir mewn swyddi llawrydd a chyflogedig lle mae galw mawr fel marchnata, cyllid a chyfathrebu.

 

17. Rydyn ni hefyd yn pryderu am chwythu plwc a llesiant gwael yn y sector. Dyma un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd, ac mae’n ffactor sy’n cyfrannu at heriau’r gweithlu, gan gynnwys doniau yn gadael y sector. Mae llawer o sefydliadau’n gweithio’n galed i sicrhau bod amodau gwaith yn rhoi blaenoriaeth i lesiant meddwl cadarnhaol, gan gynnwys yng Nghelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru lle rydyn ni'n cyflwyno “pecyn mynediad” lle gall pobl sydd ag anghenion ychwanegol fod yn sicr y byddwn yn rhoi addasiadau ar waith pan allwn ni, beth bynnag yw hyd y contract.

 

 

Pa mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?

 

18. Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ymdrechu i wella amrywiaeth y gweithwyr llawrydd rydyn ni'n eu cyflogi. Yn y flwyddyn ariannol 21-22, anfonwyd arolwg cyfleoedd cyfartal dienw at bob gweithiwr llawrydd – roedd 14% o’r ymatebwyr o gefndiroedd Mwyafrif Byd-eang, ac mae gan 15% o’r ymatebwyr anabledd. Byddwn yn ymdrechu i wella'r ffigurau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fodd bynnag, does dim gwybodaeth llinell sylfaen ar gyfer Cymru ar hyn o bryd, felly mae'n anodd inni fesur ein cynnydd yn erbyn y sector ehangach. Mae angen cydbwyso sgyrsiau a gweithredoedd ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – a chydnabod rhyngblethedd – yn erbyn cyfansoddiad cymunedau gwahanol ledled Cymru.

 

19. Yn ystod y pandemig, ffurfiodd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru bedwar Tasglu Amrywiaeth i archwilio anghydraddoldebau yn y sector – gan ganolbwyntio ar wella mynediad i artistiaid ag anableddau, artistiaid o'r Mwyafrif Byd-eang, ac artistiaid o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Roedd y tasgluoedd hyn yn cael eu harwain yn annibynnol gan weithwyr llawrydd profiadol gyda phrofiad bywyd. Rydyn ni'n adolygu'r argymhellion annibynnol yn rheolaidd a bydd y rhain yn parhau i lywio ein gwaith.

 

20. Rydyn ni'n gwybod bod rhaid gwneud mwy. Rydyn ni'n croesawu’r twf yn y swyddi lefel mynediad sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pobl ifanc o’r Mwyafrif Byd-eang, ond mae angen mwy o waith i sicrhau bod y doniau hyn yn gallu symud ymlaen i bob lefel o’r gweithlu gan gynnwys swyddi uwch reolwyr.

 

21. Mae mwy y gallwn ei wneud fel sector i annog pobl o deuluoedd incwm is i ymuno â’r diwydiannau creadigol. Dydyn ni ddim yn credu bod interniaethau di-dâl yn deg, gan eu bod yn eithrio’r rhai nad ydyn nhw’n gallu fforddio gweithio am ddim. Fodd bynnag, yn wahanol i lefydd fel Llundain, er enghraifft, lle mae sefydliadau celfyddydol yn hysbysebu swyddi di-dâl, anaml y mae hyn yn wir yng Nghymru, ac rydyn ni’n croesawu hynny.

 

 

Pa mor ddigonol yw’r cyfleoedd hyfforddi a sgiliau? A oes bylchau, a sut dylid eu llenwi?

 

22. Ar raddfa fach, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru wedi gallu helpu pobl ifanc sy'n ymuno â'r gweithlu llawrydd i gael yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Un enghraifft o hyn yw ein cynllun Mentoriaid y Dyfodol, lle rhoddwyd gwaith cyflogedig i chwe pherson ifanc o’r Mwyafrif Byd-eang a chynnig mentora a hyfforddiant iddynt, gan helpu cerddorion ifanc i ennill profiad fel hwyluswyr gweithdai. Roedd hyn fel rhan o Gerdd y Dyfodol, ein prosiect datblygu cerddoriaeth gyfoes newydd ar gyfer pobl ifanc 15-19 oed yng Nghymru. Mae cynllun Mentoriaid y Dyfodol wedi'i ariannu gan Gronfa Ddeori Youth Music.

 

23. Drwy brosiect Llwybrau Proffesiynol, a ddarparwyd gennym mewn partneriaeth â Theatr Clwyd yn 2022, llwyddwyd i roi cipolwg i fwy na 40 o actorion ifanc ar lawer o wahanol lwybrau gyrfa, ac nid actio yn unig. Roedd modd i’r cyfranogwyr gwrdd a dysgu oddi wrth ysgrifenwyr theatr, cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr, dylunwyr a staff technegol, i archwilio’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt.

 

24. Er y byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd pellach fel y rhain, teimlwn fod angen cyfleoedd ehangach ar berfformwyr ifanc, yn enwedig y rhai sydd o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol, i archwilio sut y gellir defnyddio eu sgiliau ar draws y sector cyfan. Bydd mwy o gyllid pwrpasol yn y maes hwn, ynghyd â dull gweithio ar y cyd rhwng sector y celfyddydau, ysgolion, colegau a phrifysgolion, yn helpu pob perfformiwr ifanc i gael gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddynt.

 

25. Teimlwn hefyd y byddai llawer o weithwyr llawrydd ifanc yn elwa o gael cyngor ar rai o’r materion mwy ymarferol sy’n wynebu gweithwyr llawrydd creadigol – fel sut i wneud cais am gyllid, a sut i ymdrin ag anfonebu a threthi.

 

 

Beth fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen cymorth pellach?

 

26. Fe wnaeth cyllid i sefydliadau gan gynnwys Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn ystod pandemig Covid, fel y Gronfa Adferiad Diwylliannol, helpu’n anuniongyrchol i sicrhau y gallai gweithwyr llawrydd barhau i weithio yn ystod y pandemig. Aeth 27% o’n dyfarniad cyntaf o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn uniongyrchol i weithwyr llawrydd, gyda 13% pellach yn mynd i fusnesau bach yng Nghymru. Er ein bod yn benderfynol o gefnogi’n cymuned llawrydd gymaint ag y gallen ni, roedden ni’n ymwybodol yn anecdotaidd fod llawer yn cael trafferth cael cymorth ariannol i ategu colledion incwm oherwydd y pandemig.

 

27. Rydyn ni’n falch iawn o weld cefnogaeth gan Gymru Greadigol i helpu i gryfhau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Er ei bod yn galonogol gweld y gefnogaeth hon i sectorau nad ydynt yn cael eu cefnogi’n draddodiadol gan Gyngor y Celfyddydau, mae’n amlwg bod angen dull cydweithredol gan fod y sectorau’n gysylltiedig. Un enghraifft o hyn yw’r llif o ddoniau sy’n symud o’r sector theatr sy’n cael ei noddi, sy’n aml yn elwa ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu gyda nawdd, i’r sectorau ffilm a theledu masnachol, yn aml am ffioedd sylweddol uwch. Gallai’r “draen dawn” creadigol hwn arwain at brinder sgiliau yn y sector sy'n gyfrifol am ddatblygu sgiliau a doniau yn y lle cyntaf. Byddai cynllun prentisiaethau wedi’i noddi ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, yn debyg i'r rhai a gynigir yn y diwydiannau creadigol ehangach, yn cael effaith.

 

28. Teimlwn fod Contract Diwylliannol Llywodraeth Cymru wedi helpu i hwyluso sgwrs yn y sector am gyfleoedd teg a chyflog teg i weithwyr llawrydd. Rydyn ni’n croesawu hyn ac fe fydden ni’n annog arianwyr i gynyddu hyn ymhellach i ofynion ariannu.

 

29. Byddai negeseuon cadarnhaol ynghylch dymunoldeb sector celfyddydol a diwylliannol Cymru fel dewis gyrfa hyfyw a gwerth chweil yn ddefnyddiol. Gellid cysylltu hyn â’r cyfleoedd newydd sy’n codi yn sgil y Cwricwlwm newydd i Gymru, a’r ffordd mae’r celfyddydau creadigol a mynegiannol yn cael eu dysgu. Er mwyn cynyddu amrywiaeth, mae’n arbennig o bwysig bod ymdrechion yn canolbwyntio ar bobl ifanc o gymunedau economaidd-gymdeithasol is – nad ydyn nhw o bosib yn ymwybodol o’r math o gyfleoedd gwaith sy’n bodoli, yn enwedig oddi ar y llwyfan (technegol, marchnata a chyfathrebu, gweinyddiaeth, cyllid a chodi arian) yn y sector celfyddydol a diwylliannol.